SL(5)220 – Rheoliadau Pysgota Môr (Diwygiadau Amrywiol) 2018 (Saesneg yn unig)

Cefndir a Diben

Mae'r Rheoliadau hyn yn diwygio Gorchymyn Pysgota Môr (Pysgota Anghyfreithlon, Heb ei Gofnodi a Heb ei Reoleiddio) 2009 (Saesneg yn unig) a Rheoliadau Pysgota Môr (Pwyntiau ar gyfer Meistri Cychod Pysgota) 2014 (Saesneg yn unig). Maent yn gweithredu darpariaethau Erthygl 38 o Reoliad y Cyngor (EC) Rhif 1005/2008, sy'n sefydlu system y Gymuned i atal, rhwystro a dileu achosion o bysgota anghyfreithlon, heb ei adrodd a heb ei rheoleiddio.

Y weithdrefn

Penderfyniad negyddol, cyfansawdd.

Materion technegol: craffu

Nodir un pwynt i gyflwyno adroddiad arno o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.2(ix) – nad yw'r offeryn wedi'i wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg

Mae'r Rheoliadau hyn wedi cael eu gwneud fel offeryn cyfansawdd, sy'n golygu bod y Rheoliadau hyn: (a) wedi cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol, a (b) wedi cael eu gosod gerbron Cynulliad Cenedlaethol Cymru a Senedd y DU.

Mae'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn datgan, oherwydd natur gyfansawdd y Rheoliadau, nad oedd yn rhesymol ymarferol i'r Rheoliadau gael eu gwneud yn Gymraeg a Saesneg. 

Rhinweddau: craffu

Nodwyd tri phwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

Mae cyfraith yr UE yn ei gwneud yn ofynnol i Aelod-wladwriaethau orfodi rhai gweithgareddau pysgota môr sydd wedi'u gwahardd, fel mewnforio pysgod a ddaliwyd gan long pysgota o drydedd wlad nad yw'n cydweithredu. Ym mis Mawrth 2014, am y tro cyntaf, cyhoeddodd Cyngor yr Undeb Ewropeaidd restr o wledydd nad ydynt wedi cydweithio â'r UE mewn perthynas â physgota môr anghyfreithlon, heb ei gofnodi a heb ei reoleiddio. Y gwledydd ar y rhestr yw Belize, Teyrnas Cambodia a Gweriniaeth Gini.

 

Nodwyd nad oedd y gwledydd hyn yn cydweithredu ym mis Mawrth 2014. Nid yw'n amlwg pam ei bod wedi cymryd tan fis Mai 2018 i wneud y Rheoliadau hyn i orfodi gweithgareddau sydd wedi'u gwahardd yn erbyn y gwledydd hyn nad ydynt yn cydweithredu.

 

 

 

 

 

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

Mae cymhwyso'r Rheoliadau hyn yn dibynnu ar ddiffiniadau fel "ardaloedd o fewn terfynau'r môr tiriogaethol cyfagos i Loegr" a "rhan o'r môr o fewn terfynau pysgodfeydd Prydain sydd i'w drin fel cyfagos i Gymru" ac ati.

 

Er mwyn gweld beth yw union ystyr yr ardaloedd hyn, mae angen edrych ar sawl darn o ddeddfwriaeth a phlotio nifer fawr o gyfesurynnau.

 

Rydym yn argymell y dylid cynnwys mapiau yn y Memoranda Esboniadol yn y dyfodol, er mwyn rhoi crynodeb sydyn o'r ardaloedd môr perthnasol.

 

3. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – mae'r offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu mae'n codi materion polisi cyhoeddus sy’n debygol o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

 

Cododd rhai o'r newidiadau a wnaed gan y Rheoliadau hyn o'r pwyntiau adrodd technegol y cododd y Pwyllgor hwn ym mis Ionawr 2015. Er ein bod yn croesawu'r newidiadau hynny sy'n cael eu gwneud (mewn perthynas â Chymru, Lloegr, Gogledd Iwerddon ac, yn rhannol, yr Alban), rydym yn nodi ei bod wedi cymryd bron tair blynedd a hanner i wneud y newidiadau.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Mae'r Rheoliadau hyn yn gweithredu ac yn gorfodi rhwymedigaethau'r UE mewn perthynas â physgota môr, ac felly bydd y Rheoliadau hyn yn ffurfio rhan o gyfraith yr UE a ddargedwir ar ôl y diwrnod ymadael.

Mae'r Cytundeb Rhynglywodraethol ar Fil yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) a Sefydlu Fframweithiau Cyffredin yn nodi bod "rheoli a chefnogi pysgodfeydd" yn faes polisi sy'n debygol o fod yn ddarostyngedig i reoliadau cymal 15 o dan Fil yr UE (Ymadael). Felly, mae'r gyfraith sy'n dod o dan y Rheoliadau hyn yn debygol o fod yn faes o gyfraith yr UE sy'n cael ei rewi tra bod fframweithiau cyffredin yn cael eu rhoi ar waith.

Ymateb y Llywodraeth

Ymateb i’r Pwyntiau Adrodd Craffu Technegol

Pwynt 1: Rheol Sefydlog 21.2 (ix) – nad yw’r offeryn wedi ei wneud yn Gymraeg ac yn Saesneg

 

Gwneir y Rheoliadau ar sail gyfansawdd er mwyn sicrhau bod y llyfr statud yn eglur, yn hygyrch ac yn dryloyw i’r rheini y mae’n ofynnol iddynt gydymffurfio â’i ddarpariaethau.

Gan fod yr offeryn cyfansawdd hwn (sy’n diwygio dau offeryn blaenorol a wnaed ar sail gyfansawdd hefyd) yn ddarostyngedig i’w gymeradwyo gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru yn ogystal â Senedd y Deyrnas Unedig, ni chredir ei bod yn rhesymol ymarferol i’r offeryn hwn gael ei wneud na’i osod yn ddwyieithog.

 

Ymateb i’r Pwyntiau Craffu ar sail Rhinweddau

 

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – fod yr offeryn o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad

Pwynt 1.

 

Nodir y pwynt adrodd.

 

Yn ymarferol, cymharol fach yw’r tebygolrwydd y bydd y gwledydd nad ydynt yn cydymffurfio a restrwyd yn 2014 sydd â chysylltiad â’r Deyrnas Unedig, a hyd yn oed yn fwy felly o ran Cymru, yn pysgota’n anghyfreithlon.

Gan fod y risg mor isel, roedd yn briodol disgwyl i gael proses OS gyfansawdd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn San Steffan. Pe byddai Llywodraeth Cymru wedi mentro ar wahân byddai’n golygu bod y ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn bodoli mewn dogfen ddeddfwriaethol ar wahân. Mae’n bosibl y byddai hynny’n ddryslyd i’r rheini y mae’n berthnasol iddynt.

Mae’n bwysig yn awr bod deddfwriaeth yn cael ei deddfu er mwyn caniatáu i reoliadau’r UE gael eu trosi pan fydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Pwynt 2.

 

Nodir y pwynt adrodd.

Yn y dyfodol bydd Memoranda Esboniadol yn cynnwys mapiau, fel yr awgrymir, mewn amgylchiadau tebyg.

 

Pwynt 3.

 

Nodir y pwynt adrodd.

Yn ymarferol, roedd gweithredu’r cynllun ‘Points for Masters’ wedi ei oedi ar lefel yr UE yn dilyn anghytuno ynglŷn â difrifoldeb, ac felly lefel y pwyntiau oedd yn cael eu pennu gan Aelod-wladwriaethau unigol am droseddau tebyg, ymysg pryderon nad oedd y sefyllfa yn deg ar bawb.

Yng ngoleuni’r amgylchiadau hyn a’r graddau y mae rheoliadau domestig a rheoliadau eraill yr EU yn gymwys i atal diffyg cydymffurfio â rheoliadau pysgodfeydd yn gyffredinol, roedd yn briodol aros am broses OS gyfansawdd rhwng Llywodraeth Cymru ac Adran yr Amgylchedd, Bwyd a Materion Gwledig yn San Steffan. Pe byddai Llywodraeth Cymru wedi mentro ar wahân byddai’n golygu bod y ddeddfwriaeth yn y maes hwn yn bodoli mewn dogfen ddeddfwriaethol ar wahân. Mae’n bosibl y byddai hynny’n ddryslyd i’r rheini y mae’n berthnasol iddynt.

Mae’n bwysig yn awr bod deddfwriaeth yn cael ei deddfu er mwyn caniatáu i reoliadau’r UE gael eu trosi pan fydd y DU yn ymadael â’r Undeb Ewropeaidd.

 

Trafodaeth y Pwyllgor

Trafododd y Pwyllgor yr offeryn yn ei gyfarfod ar 11 Mehefin, a bydd yn cyflwyno adroddiad i’r Cynulliad yn unol â’r pwyntiau technegol a’r rhinweddau uchod. Cytunodd y Pwyllgor i ysgrifennu at Ysgrifennydd y Cabinet dros Ynni, Cynllunio a Materion Gwledig